Mae'r diwrnod mawr yn d'od, O'i fath ni welodd neb erio'd; Rhaid ini i gyd, &c. I dd'od yn nghyd o flaen ein Duw. Fe dry yr haul fel sach-len flew, Fe waedda'r mawrion dewrion glew, Ar greigiau'n glau, &c. Gan bwys eu gwae, i'w cuddio hwy. Fe syrthia aml ser y nen, Fe d'wylla'r bydoedd mawr uwchben; Fe sych y môr, &c. Bydd f'Arglwydd Ior yr un o hyd. Jehofa mawr, anfeidrol yw Yr Hollalluog Arglwydd Dduw; Hwn sydd erio'd, &c. Fe roddodd fôd i'r cyfan sydd. A'i air y creodd ef y byd, A'i air fe'u geilw oll yn nghyd; Pan ddêl y dydd, &c. Daw'r caeth yn rhydd o lwch y bedd. O groesaw wynfydedig awr, I gwrdd â Brenin nefoedd fawr; Pob llygad wêl, &c. Ef pan y del ar gwmmwl nef. Ceir gwel'd y dyrfa ddysglaer fawr, Rifedi gwlith y boreu wawr, Heb friw na phoen, &c. Yn canu i'r Oen y newydd gân. Bydd uchel ganu y pryd hyn, Am angeu pen Calfaria fryn; Heb goffa mwy, &c. Am boen na chlwy' ond gwaed y groes. Ni thraetha tafod fyth i ma's, Hapusrwydd etifeddion gras; Pan losgo'r byd, &c. Fe bery o hyd eu gwynfyd hwy. Bydd gwraig yr Oen heb boen na phwn Yn canu'n iach y boreu hwn, Ar ddeheu-law, &c. Ei Phriod draw, heb farw byth. Ei dagrau sychir bob yr un, Er cymaint ydynt, er mor flin; Dim gofid byth, &c. Mewn nefol nyth, nis blina hi. 'Fydd yno un gorthrymwr trist, I ddrygu priod Iesu Grist; Gwir heddwch llawn, &c. Fyth yno cawn, heb ryfel mwy. Neshau mae'r waredigaeth lawn, A'r boreu hyfryd heb brydnawn, Mewn nefol hedd, &c. Tu draw i'r bedd, i wledda byth.Morgan Rhys 1716-79 [Mesur: MH 8888] gwelir: Ceir gwel'd y dyrfa ddysglaer fawr Fe syrth aneirif sêr y nen |
The great day is coming, The kind of which no-one has ever seen; We must all, &c. Come together before our God. The sun shall turn to hairy sack-cloth, The great valiant brave ones shall shout, To the rocks urgently, &c. Under the weight of their woe, for them to cover them. The manifold stars of the sky shall fall, The great worlds overhead shall darken; The sea shall dry up, &c. The Sovereign Lord shall be ever the same. Great Jehovah, immeasurable is he, The Almighty Lord God; He who ever is, &c. He gave being to the whole that is. With his word he created the world, With his word he calls them all together; When the day comes, &c. The captive shall come free from the dust of the grave. O welcome, blessed hour, To meet with the King of great heaven; Every eye shall see, &c. Him when he comes on the cloud of heaven. The great radiant throng shall be seen, Numerous as the dew of the morning dawn, With neither bruise nor pain, &c. Singing to the Lamb the new song. There shall be loud singing at that time, About the death of Calvary hill's summit; With no more remembrance, &c. Of pain or wound but the blood of the cross. No tongue shall ever set forth, The happiness of the heirs of grace; When the world burns, &c. Endure forever shall their blessedness. The Lamb's bride, without pain or burden, Shall be bidding farewell on that morning, At the right hand, &c. Of her Spouse yonder, without ever dying any more. Her tears shall be dried, every one, Despite how many they are, despite how grievous; No distress ever, &c. In a heavenly nest, she shall not grieve. No sad oppressor at all shall be there, To harm the spouse of Jesus Christ; Full, true peace, &c. Forever there we may get, with no more war. Approaching is the full deliverance, And the delightful morning without evening, In heavenly peace, &c. Beyond the grave, to feast forever.tr. 2024 Richard B Gillion |
|